Y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn sgîl cyfarfod y Bwrdd Taliadau ar 29 Awst 2014

 

 

Annwyl Aelod Cynulliad,

 

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau gyfarfod byr ar 29 Awst. Roedd yn bleser cael croesawu'r Athro Laura McAllister i'w chyfarfod cyntaf. Mae profiad Laura o'r Cynulliad, a'i gwybodaeth amdano, yn sylweddol, ac mae hynny'n wir hefyd o ran gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol a llywodraethu effeithiol. Mae hi'n ymuno â'r Bwrdd am flwyddyn wrth i ni gwblhau ein paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad.  Roedd y cyfarfod hwn yn ymwneud yn bennaf â ffurfiau rhagarweiniol y cynigion.

Cyflog: Pensiynau'r Aelodau

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion ffurfiol a gafwyd i'n hymgynghoriad diweddaraf ar bensiynau. Rydym yn ddiolchgar i'r grwpiau hynny sydd wedi ymateb. Byddwn yn ymateb yn unigol i bob un o'r materion a chwestiynau a godwyd yn y cyflwyniadau hyn yn yr wythnosau nesaf.

Cytunwyd ar geisio trafodaethau pellach gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch gweithredu'r cap ar gostau, a sut mae cynlluniau pensiwn bach eraill yn y sector cyhoeddus (megis cynllun yr Aelodau) yn ymdrin â'r gofyniad hwn o dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (y Ddeddf).

Hefyd, gwnaethom drafod y trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynllun pensiwn ac adborth oddi wrth Aelodau na fyddai Bwrdd Pensiynau bach efallai yn gallu sicrhau cydbwysedd gwleidyddol.

O gofio natur rôl aelodau'r Bwrdd Pensiynau[1], daethom i'r casgliad nad oedd rheswm cryf ar sail “llywodraethiant da” dros roi cynrychiolaeth i bob plaid ar y Bwrdd Pensiynau.

Mae'r Ddeddf yn gofyn bod nifer y cynrychiolwyr o du'r "cyflogwr" ac o du'r "aelodau" ar y Bwrdd yn hafal. Er mwyn sicrhau'r safonau gorau o ran llywodraethu a thryloywder cyhoeddus, rydym yn awyddus i osgoi canfyddiad bod gwrthdaro buddiannau yn aelodaeth y Bwrdd Pensiynau. Felly, gwelwn fod gennym gyfle yn awr i weithredu dull newydd o lywodraethu Pensiynau'r Aelodau.

O ganlyniad, mae'r Bwrdd yn ystyried Bwrdd Pensiynau ac arno ddau yn cynrychioli'r cyflogeion (aelodau'r cynllun) a dau yn cynrychioli'r cyflogwr (y Comisiwn), o dan gadeiryddiaeth aelod annibynnol a benodir gan y Bwrdd Taliadau.

Byddwn yn trafod y cynigion hyn—a'r modd y gellir trefnu'r gynrychiolaeth i sicrhau safonau da o ran llywodraethu—â'r Comisiwn ac Ymddiriedolwyr presennol y cynllun, a ofynnodd am ragor o wybodaeth am hyn yn eu hymateb i'r ymgynghoriad.

Yn amodol ar y trafodaethau hynny, a gwybodaeth bellach gan Drysorlys Ei Mawrhydi, bydd cynghorwyr cyfreithiol y Bwrdd yn llunio rheolau'r cynllun pensiwn, gyda'r Bwrdd yn rhoi sylw manwl iddynt yn ein cyfarfod ym mis Tachwedd.

 

Cyflog: Cyflogau Aelodau'r Cynulliad

Yn y cyfarfod hwn, daeth dau adroddiad drafft a gomisiynwyd gan y Bwrdd i law. Edrychodd y naill ar y rhwystrau rhag dod yn Aelod o'r Cynulliad (Prifysgol Bangor), gyda'r llall yn edrych ar bwysau cymharol y gwaith yng ngwahanol rolau'r Aelodau (HayGroup).  Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniadau a gafwyd gan rai Aelodau o ran llywio'r adroddiadau hyn.  Yn amodol ar unrhyw egluro a gwybodaeth ychwanegol, bydd yr adroddiadau hyn yn rhan o'n sesiwn ym mis Hydref lle y byddwn yn trafod materion ynghylch cyflogau a sut mae’r cyfuniad o gyflogau a phensiynau yn ffurfio cyfanswm y taliadau i Aelodau. Rhagwelwn y byddwn yn cyhoeddi'r ddau adroddiad fel rhan o'r ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion a fydd yn deillio o'r cyfarfod hwnnw.

Cawsom drafodaeth gychwynnol ar arwyddocâd y pecyn taliadau ar gyfer Aelodau a datblygiad y Cynulliad yn y dyfodol. Trafodwyd hefyd y data cymharol ar gyflogau a chyfanswm taliadau mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU, yn y sector cyhoeddus ac yn economi Cymru.

Byddwn yn llunio cynigion ar gyfanswm taliadau (cyflog a phensiynau) yn y Pumed Cynulliad yn ein cyfarfod ar 16 a 17 Hydref, a byddem yn croesawu unrhyw gyfraniadau gan Aelodau cyn y cyfarfod hwnnw.

Lwfansau Aelodau'r Cynulliad

Rhoes y Bwrdd sylw i bapur briffio ar lwfansau. Rydym yn awyddus i edrych ar ffyrdd o roi mwy o ryddid i Aelodau wrth gynnal lefelau uchel o dryloywder a gwerth am arian, a byddwn yn ystyried cynigion ar gyfer yr holl lwfansau yn ein cyfarfod ym mis Hydref.

Mae'r adran hon o'r penderfyniad yn cynnwys:

·         Llety Preswyl 

·         Teithio'r Aelodau;

·         A ddylid cyflwyno rhyw fath o Lwfans Gofalu ychwanegol;

·         Costau swyddfa;

·         Lwfansau i Aelodau sy'n gadael eu swydd.

Croesawn unrhyw sylwadau gan Aelodau ar y materion hyn cyn ein cyfarfod ym mis Hydref.Byddwn yn ymgynghori yn ffurfiol ar unrhyw gynigion newydd cyn diwedd y flwyddyn.

 

Rwyf bob amser yn barod i gwrdd ag unrhyw Aelodau sydd am godi materion gyda mi. Cysylltwch â'r clerc ar taliadau@cymru.gov.ukos hoffech drefnu cyfarfod.

Cofion gorau,

 

Sandy Blair CBE

Cadeirydd / Chair

Bwrdd Taliadau/Remuneration Board

 



[1]Rôl y Bwrdd Pensiynau yw (i) sicrhau y cedwir at reolau'r cynllun ac y cedwir oddi mewn i’r ddeddfwrtiaeth berthnasol, (ii) sicrhau bod gofynion y Rheolydd Pensiynau yn cael eu dilyn, a (iii) gwneud unrhyw beth arall sy'n ofynnol o dan reolau'r cynllun.